2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 (O.S. 2016/106 Cy. 52).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol â pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliadau 3 a 4, i rym ar y diwrnod ymadael.

(3) Daw rheoliadau 3 a 4 i rym ar y diwrnod sydd flwyddyn ar ôl y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd.

(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2—

(a)     yn y diffiniad o “tatws hadyd sylfaenol”, ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “yn unol” hyd at y diwedd rhodder—

, yn datgan bod y tatws wedi eu hardystio’n datws hadyd sylfaenol a’r radd, yn unol ag—

                       (i)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;

                      (ii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith paragraffau 2, 5, 7, 9, 10 ac 11 o Ran 1 o Atodlen 2;

                     (iii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, Erthygl 13(1)(a) o’r Gyfarwyddeb;;

(b)     yn y diffiniad o “categori” hepgorer y geiriau “yn unol â chytundeb masnach y Swistir”;

(c)     yn y diffiniad o “ardystio” ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “yn unol” hyd at y diwedd rhodder—

yn unol ag—

                       (i)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;

                      (ii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith rheoliad 10(2) a (3);

                     (iii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, y Gyfarwyddeb;;

(d)     yn y diffiniad o “tatws hadyd ardystiedig” ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “yn unol” hyd at y diwedd rhodder—

, yn datgan bod y tatws wedi eu hardystio’n datws hadyd ardystiedig a’r radd, yn unol ag—

                       (i)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;

                      (ii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith paragraffau 3, 5, 7, 9, 10 ac 11 o Atodlen 2;

                     (iii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, Erthygl 13(1)(a) o’r Gyfarwyddeb;;

(e)     ar ôl y diffiniad o “tatws hadyd sylfaenol” mewnosoder—

ystyr “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” (“Crown Dependency”) yw Ynys Manaw ac unrhyw un o Ynysoedd y Sianel;

(f)      ar ôl y diffiniad o “pecyn neu gynhwysydd” mewnosoder—

ystyr “y Rheoliadau GMO” (“the GMO Regulations”) yw—

(a)   o ran Lloegr, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002([2]);

(b)   o ran Cymru, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002([3]);

(c)   o ran yr Alban, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Yr Alban) 2002([4]);

(d)   o ran Gogledd Iwerddon, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Gogledd Iwerddon) 2003([5]);;

(g)     yn lle’r diffiniad o “gradd” rhodder—

mae “gradd” (“grade”) yn cynnwys gradd y Deyrnas Unedig;;

(h)     yn lle’r diffiniad o “Rhestr Genedlaethol” rhodder—

ystyr “Rhestr Genedlaethol” (“National List”) yw rhestr o amrywogaethau o rywogaethau tatws sydd wedi ei llunio a’i chyhoeddi yn unol â rheoliad 3 o’r Rheoliadau Rhestrau Cenedlaethol;;

(i)       yn y diffiniad o “dogfen swyddogol” ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “gofynion” hyd at y diwedd rhodder—

gofynion—

                       (i)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;

                      (ii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith gofynion Rhan 2 o Atodlen 2;

                     (iii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, Erthygl 13(1)(b) o’r Gyfarwyddeb;;

(j)       yn y diffiniad o “label swyddogol” ym mharagraff (b), hepgorer “gofynion” ac yn lle’r geiriau o “Erthygl 13(1)(a)” hyd at y diwedd rhodder—

ofynion—

                       (i)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;

                      (ii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith gofynion Rhan 1 o Atodlen 2;

                     (iii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, Erthygl 13(1)(a) neu 18(f) o’r Gyfarwyddeb neu Erthygl 9 o’r Penderfyniad;;

(k)     yn y diffiniad o “tatws hadyd cyn-sylfaenol”, ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “yn unol” hyd at y diwedd rhodder—

, yn datgan bod y tatws wedi eu hardystio’n datws hadyd cyn-sylfaenol a’r radd, yn unol ag—

                       (i)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;

                      (ii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith paragraffau 1, 5, 6, 9, 10 ac 11 o Ran 1 o Atodlen 2;

                     (iii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, Erthygl 18(f) o’r Gyfarwyddeb;;

(l)       yn lle’r diffiniad o “tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth” rhodder—

ystyr “tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth” (“seed potatoes of a conservation variety”) yw unrhyw amrywogaeth o datws hadyd a restrir fel amrywogaeth gadwraeth yn y Rhestr Genedlaethol;;

(m)   yn y diffiniad o “tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru”, ym mharagraff (b) hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig”;

(n)     ar ôl y diffiniad o “y Rheoliadau Rhestrau Cenedlaethol” mewnosoder—

ystyr “y rheoliadau tatws hadyd” (“the seed potatoes regulations”) yw—

(a)   o ran Lloegr, Reoliadau Tatws Hadyd (Lloegr) 2015;

(b)   o ran yr Alban, Reoliadau Tatws Hadyd (Yr Alban) 2015([6]);

(c)   o ran Gogledd Iwerddon, Reoliadau Tatws Hadyd (Gogledd Iwerddon) 2016([7]);

ac ystyr “y rheoliadau tatws hadyd perthnasol” (“the relevant seed potatoes regulations”), o ran unrhyw ran gyfansoddol o’r Deyrnas Unedig, yw’r rheoliadau tatws hadyd sy’n gymwys o ran y rhan honno;;

(o)     yn y diffiniad o “tatws hadyd sydd i’w profi a’u treialu”, ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “yn unol” hyd at y diwedd rhodder—

 yn unol ag—

                       (i)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;

                      (ii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith paragraffau 4, 5, 8, 9, 10 ac 11(c) o Ran 1 o Atodlen 2;

                     (iii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, Erthygl 9 o’r Penderfyniad;

(p)     yn lle’r diffiniad o “gradd yr Undeb” rhodder—

ystyr “gradd yr Undeb” (“Union grade”), mewn perthynas â thatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, yw—

(a)   yn achos tatws hadyd cyn-sylfaenol, gradd PBTC yr Undeb neu radd PB yr Undeb, y nodir yr amodau gofynnol ar eu cyfer yn Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb 2014/21/EU([8]) ac Atodiad 1 iddi;

(b)   yn achos tatws hadyd sylfaenol, gradd S yr Undeb, gradd SE yr Undeb neu radd E yr Undeb, y nodir yr amodau gofynnol ar eu cyfer yn Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2014/20/EU([9]) ac Atodiad 1 iddi;

(c)   yn achos tatws hadyd ardystiedig, gradd A yr Undeb neu radd B yr Undeb, y nodir yr amodau gofynnol ar eu cyfer yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 2014/20/EU ac Atodiad 2 iddi;;

(q)     ar ôl y diffiniad o “gradd” mewnosoder—

ystyr “gradd y Deyrnas Unedig” (“United Kingdom grade”) yw—

(a)   o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, gradd y Deyrnas Unedig a bennir yn unol ag Atodlen 4 wrth ardystio, sef—

                       (i)  yn achos tatws hadyd cyn-sylfaenol, gradd PBTC y DU neu radd PB y DU;

                      (ii)  yn achos tatws hadyd sylfaenol, gradd S y DU, gradd SE y DU neu radd E y DU;

                     (iii)  yn achos tatws hadyd ardystiedig, gradd A y DU neu radd B y DU;

(b)   o ran tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig ac eithrio yng Nghymru, gradd y Deyrnas Unedig a bennir yn unol â’r rheoliadau tatws hadyd perthnasol;;

(r)      ym mharagraff 2, hepgorer y geiriau o “yn unol” hyd at y diwedd;

(s)      hepgorer paragraff (4).

(3) Yn rheoliad 4, yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”.

(4) Yn rheoliad 5, ym mharagraff 3(b), yn lle’r geiriau o “yn unol” hyd at y diwedd rhodder—

yn unol ag—

                       (i)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;

                      (ii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith rheoliad 8;

                     (iii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, Erthygl 6(1)(a) o’r Gyfarwyddeb;;

(5) Yn rheoliad 6—

(a)     ym mharagraff (3), yn lle’r geiriau o’r dechrau hyd at “Gyfarwyddeb 2008/62/EC” rhodder “Pan fyddai’r symiau yn debygol o fod yn fwy na’r symiau a bennir yn Erthygl 14 o Gyfarwyddeb 2008/62/EC([10]) fel arall”;

(b)     ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) At ddibenion paragraff (3), mae Erthygl 14 o Gyfarwyddeb 2008/62/EC i’w darllen fel pe bai—

(a)   yn y paragraff cyntaf, yn y frawddeg gyntaf—

                       (i)  y geiriau “Each Member State shall ensure that” wedi eu hepgor;

                      (ii)  y geiriau “may not exceed” wedi eu rhoi yn lle “does not exceed”;

                     (iii)  cyfeiriad at “the United Kingdom” yn cael ei roi yn lle’r cyfeiriad at “that Member State”;

(b)   yn yr ail baragraff—

                       (i)  yn y frawddeg gyntaf, cyfeiriad at “the United Kingdom” yn cael ei roi yn lle’r cyfeiriad at “each Member State”;

                      (ii)  cyfeiriadau at “the United Kingdom” yn cael eu rhoi yn lle’r cyfeiriadau at “the Member State”, yn y ddau le y maent yn digwydd”..

(6) Yn rheoliad 8(2), yn lle’r geiriau o “y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid” hyd at y diwedd rhodder—

(a)   y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid;

(b)   y rheoliadau GMO; neu

(c)   cyn y diwrnod ymadael, Ran C o’r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

(7) Yn rheoliad 9—

(a)     ym mharagraff (2)—

                            (i)    yn is-baragraff (a), yn lle “sy’n fwy nag a ganiateir gan Erthygl 7 o’r Penderfyniad” rhodder “sy’n fwy na pha un bynnag sydd fwyaf o 0.1% o nifer blynyddol y tatws hadyd a ddefnyddir yn y Deyrnas Unedig neu unrhyw swm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ddigonol er mwyn hau 10 hectar”;

                          (ii)    yn is-baragraff (b), yn lle’r geiriau o “y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid” hyd at y diwedd rhodder—

                       (i)  y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid;

                      (ii)  y rheoliadau GMO; neu

                     (iii)  cyn y diwrnod ymadael, Ran C o’r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol;

(b)     ym mharagraff (6)(b), hepgorer “neu yn y Catalog Cyffredin”;

(c)     ym mharagraff (8)(b), yn lle “Aelod-wladwriaeth” rhodder “wlad”.

(8) Yn rheoliad 11(3)(b), yn lle’r geiriau o “yn unol â’r Gyfarwyddeb” hyd at y diwedd rhodder—

, mewn cysylltiad â marchnata tatws o’r categori hwnnw, yn unol ag—

                       (i)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;

                      (ii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith is-baragraff (a);

                     (iii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, y Gyfarwyddeb.

(9) Yn rheoliad 14(2)(b), yn lle’r geiriau o “yn unol ag” hyd at y diwedd rhodder—

yn unol ag—

                       (i)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;

                      (ii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith is-baragraff (a);

                     (iii)  yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, Erthygl 11(1) o’r Gyfarwyddeb.

(10) Yn rheoliad 16—

(a)     yn y pennawd, yn lle “o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “a fewnforir i Gymru”;

(b)     ailrifer y testun presennol yn baragraff (1);

(c)     ym mharagraff (1)—

                            (i)    ar y dechrau mewnosoder y geiriau “Yn ddarostyngedig i baragraff (2),”;

                          (ii)    hepgorer y geiriau “o wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd”;

(d)     ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson sy’n marchnata mwy na 2 gilogram o datws hadyd sydd wedi eu mewnforio i Gymru o—

(a)      lle sydd o fewn Ynysoedd Prydain;

(b)      Aelod-wladwriaeth neu’r Swistir.

(11) Ar ôl rheoliad 23 mewnosoder—

Darpariaeth drosiannol ar gyfer labeli swyddogol ar y diwrnod ymadael

23A. Mae label a ragargraffwyd cyn y diwrnod ymadael a oedd yn label swyddogol at ddibenion y Rheoliadau hyn ar y dyddiad y’i hargraffwyd i’w drin fel label swyddogol at ddibenion unrhyw ddefnydd o’r label hwnnw cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd.

(12) Yn Atodlen 1 ym mharagraffau 5, 6,  8 a 10, yn lle “yr Undeb”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “y DU”.

(13) Yn Atodlen 2—

(a)     ym mharagraff 6(a), yn lle “Aelod-wladwriaeth” rhodder “wlad”;

(b)     ym mharagraff 7—

                            (i)    yn is-baragraff (a), yn lle “EU” rhodder “UK”;

                          (ii)    yn is-baragraff (b)(i), yn lle “Aelod-wladwriaeth” rhodder “wlad”;

(c)     ym mharagraff 8(b)(i), yn lle “Aelod-wladwriaeth” rhodder “wlad”;

(d)     ym mharagraff 9—

                            (i)    yn lle “sy’n ofynnol gan” rhodder “a bennir yn”;

                          (ii)    ar y diwedd, mewnosoder “sydd i’w ddarllen fel pe bai, ym mhwynt (a), “UK” wedi ei roi yn lle “EC””;

(e)     ym mharagraff 11, yn lle “yr Undeb”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “y DU”.

(14) Yn Atodlen 3—

(a)     ym mhenawdau Rhannau 1 a 2, yn lle “yr Undeb” rhodder “y DU”;

(b)     yn y tabl yn Rhan 3, yng ngholofn 2, yn lle “yr Undeb”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “y DU”.

(15) Mae Atodlen 4 wedi ei diwygio yn unol â pharagraffau 15 i 17.

(16) Yn Rhan 1—

(a)     yn y paragraff sy’n dod o flaen Tabl 1, yn lle “Undeb” rhodder “Deyrnas Unedig”;

(b)     yn Nhabl 1—

                            (i)    ym mhennawd colofn 1, yn lle “yr Undeb” rhodder “y DU”;

                          (ii)    yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “PB”, yng ngholofn 2, ym mharagraff (1)(b), yn lle “gradd PB yr Undeb” rhodder “gradd PB y DU neu radd PB yr Undeb”.

(17) Yn Rhan 2—

(a)     yn y paragraff sy’n dod o flaen Tabl 2, yn lle “Undeb” rhodder “Deyrnas Unedig”;

(b)     yn Nhabl 2—

                            (i)    ym mhennawd colofn 1, yn lle “yr Undeb” rhodder “y DU”;

                          (ii)    yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “S”, yng ngholofn 2, yn lle “radd S yr Undeb” rhodder “radd S y DU neu radd S yr Undeb”;

                        (iii)    yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “SE”, yng ngholofn 2, yn lle “radd S yr Undeb neu’n radd SE yr Undeb” rhodder “radd S y DU, gradd SE y DU neu radd SE yr Undeb”;

                        (iv)    yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “E”, yng ngholofn 2—

(aa)        ym mharagraff (1)(a), yn lle “radd S yr Undeb, gradd SE yr Undeb neu radd E yr Undeb” rhodder “radd S y DU, gradd SE y DU, gradd S yr Undeb neu radd SE yr Undeb”;

(bb)       ym mharagraff (1)(b), yn lle “radd S yr Undeb, gradd SE yr
Undeb neu radd E yr Undeb” rhodder “radd S y DU, gradd SE y DU, gradd E y DU, gradd S yr Undeb, gradd SE yr Undeb neu radd E yr Undeb”.

(18) Yn Rhan 3 yn Nhabl 3—

(a)     ym mhennawd colofn 1, yn lle “yr Undeb” rhodder “y DU”;

(b)     yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “A”, yng ngholofn 2

yn lle “radd A yr Undeb”  rhodder “radd A y DU neu radd A yr Undeb”;

(c)     yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “B”, yng ngholofn 2—

                            (i)    yn lle “radd A yr Undeb” rhodder “radd A y DU neu radd A yr Undeb”;

                          (ii)    yn lle “radd B yr Undeb” rhodder “radd B y DU neu radd B yr Undeb”.

(19) Ym mhennawd Atodlen 6, yn lle “ac eithrio Aelod-wladwriaeth” rhodder “y tu allan i Ynysoedd Prydain”.

Marchnata tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir

3.(1)(1) Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 fel y’u diwygir gan reoliad 2 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2—

(a)     yn y diffiniad o “tatws hadyd sylfaenol”, ym mharagraff (b) hepgorer is-baragraff (iii);

(b)     yn y diffiniad o “ardystio” , ym mharagraff (b) hepgorer is-baragraff (iii);

(c)     yn y diffiniad o “tatws hadyd ardystiedig”, ym mharagraff (b) hepgorer is-baragraff (iii);

(d)     yn y diffiniad o “dogfen swyddogol”, ym mharagraff (b) hepgorer is-baragraff (iii);

(e)     yn y diffiniad o “label swyddogol”, ym mharagraff (b) hepgorer is-baragraff (iii);

(f)      yn y diffiniad o “tatws hadyd cyn-sylfaenol”, ym mharagraff (b) hepgorer is-baragraff (iii);

(g)     yn y diffiniad o “tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru”, hepgorer paragraffau (b) ac (c);

(h)     yn y diffiniad o “tatws hadyd sydd i’w profi a’u treialu”, ym mharagraff (b) hepgorer is-baragraff (iii);

(3) Yn rheoliad 11(3)(b), hepgorer is-baragraff (iii);

(4) Yn rheoliad 14(2)(b), hepgorer is-baragraff (iii);

(5) Yn rheoliad 16, hepgorer paragraff (2)(b).

(6) Yn Atodlen 1, ym mharagraff 3(a) hepgorer “neu yn y Catalog Cyffredin”.

Marchnata tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir: darpariaeth arbed

4.(1)(1) Yn achos tatws hadyd—

(a)     a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, a

(b)     a fewnforir i Gymru cyn i reoliad 3 ddod i rym,

mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 yn parhau i gael effaith fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan reoliad 3 mewn grym.

 

 

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

5 Mawth 2019



([1])           2018 p. 16. Gweler adran 20(1) o’r Ddeddf honno i gael y diffiniad o “devolved authority”.

([2])           O.S. 2002/2443, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/2411, 2018/575.

([3])           O.S. 2002/3188 (Cy. 304), a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/2759, 2013/755 (Cy. 90).

([4])            O.S.A. 2002/541, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2004/439, 2015/100.

([5])           Rh. St. 2003 Rhif 167.

([6])           O.S.A. 2015/395, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2016/68, 434.

([7])            Rh. St. 2016 Rhif 190, a ddiwygiwyd gan Rh. St. 2017 Rhif 155.

([8])           OJ Rhif L 38, 7.2.2014, t. 39.

([9])           OJ Rhif L 38, 7.2.2014, t. 32.

([10])         OJ Rhif L 162, 21.6.2008, t. 13.